Numeri 33:34-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona.

35. Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber.

36. Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.

37. Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.

38. Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.

Numeri 33