Numeri 33:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.

2. Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.

3. Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,

Numeri 33