Numeri 32:34-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,

35. Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,

36. Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.

37. Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,

38. Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.

39. Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.

40. Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno.

Numeri 32