Numeri 31:6-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Anfonodd Moses hwy i'r frwydr, mil o bob llwyth, ynghyd â Phinees fab Eleasar yr offeiriad, i gludo llestri'r cysegr a'r trwmpedau i seinio rhybudd.

7. Aethant i ryfela yn erbyn Midian, gan ladd pob gwryw, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

8. Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur a Reba; lladdasant hefyd Balaam fab Beor â'r cleddyf.

9. Cymerodd yr Israeliaid wragedd Midian a'u plant yn garcharorion, a dwyn yn ysbail eu holl wartheg a'u defaid a'u heiddo i gyd.

10. Llosgwyd yr holl ddinasoedd y buont yn byw ynddynt, a'u holl wersylloedd,

11. a chymerwyd y cyfan o'r ysbail a'r anrhaith, yn ddyn ac anifail.

12. Yna daethant â'r carcharorion, yr ysbail a'r anrhaith at Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac at gynulliad pobl Israel oedd yn gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.

13. Aeth Moses, Eleasar yr offeiriad, a holl arweinwyr y cynulliad i'w cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.

14. Ond digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a oedd wedi dychwelyd ar ôl brwydro yn y rhyfel,

15. a dywedodd wrthynt, “A ydych wedi arbed yr holl ferched?

16. Dyma'r rhai, ar orchymyn Balaam, a wnaeth i bobl Israel fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD yn yr achos ynglŷn â Peor, pan ddaeth pla i ganol cynulliad yr ARGLWYDD.

17. Yn awr, lladdwch bob bachgen ifanc, a phob merch sydd wedi cael cyfathrach rywiol gyda dyn,

18. ond arbedwch i chwi eich hunain bob geneth ifanc nad yw wedi bod gyda dyn.

19. Y mae pob un ohonoch sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd â chorff rhywun a laddwyd, i aros y tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod; ar y trydydd a'r seithfed dydd yr ydych i'ch glanhau eich hunain a'r carcharorion sydd gyda chwi.

20. Yr ydych hefyd i lanhau pob gwisg, a phopeth a wnaed o groen neu o flew gafr, a phob offer pren.”

21. Dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr oedd wedi mynd i'r frwydr, “Dyma'r rheol yn ôl y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses:

22. dim ond aur, arian, pres, haearn, alcam a phlwm,

Numeri 31