Numeri 3:32-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.

33. O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.

34. Ar ôl cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.

Numeri 3