Numeri 29:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. ac offrymu poethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;

3. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,

4. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

5. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.

Numeri 29