Numeri 26:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno â chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD;

10. agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn tân, fel rhybudd.

11. Er hyn, ni fu farw meibion Cora.

Numeri 26