Numeri 26:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant.

19. Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan.

20. Meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid.

21. Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.

22. Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.

Numeri 26