Numeri 25:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan oedd Israel yn aros yn Sittim, dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.

2. Yr oedd y rhain yn eu gwahodd i'r aberthau i'w duwiau, a bu'r bobl yn bwyta ac yn ymgrymu i dduwiau Moab.

3. Dyma sut y daeth Israel i gyfathrach รข Baal-peor. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel,

4. a dywedodd wrth Moses am gymryd holl benaethiaid y bobl a'u crogi gerbron yr ARGLWYDD yn wyneb haul, er mwyn i'w lid droi oddi wrth Israel.

Numeri 25