Numeri 24:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft,ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt;bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo,gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau,a'u gwanu â'i saethau.

9. Pan gryma, fe orwedd fel llew,neu lewes; pwy a'i deffry?Bydded bendith ar bawb a'th fendithia,a melltith ar bawb a'th felltithia.”

10. Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, “Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.

Numeri 24