Numeri 24:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Yna llefarodd ei oracl a dweud:“Gair Balaam fab Beor,gair y gŵr yr agorir ei lygaid

16. ac sy'n clywed geiriau Duw,yn gwybod meddwl y Goruchaf,yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

17. Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr;edrychaf arno, ond nid yw'n agos.Daw seren allan o Jacob,a chyfyd teyrnwialen o Israel;fe ddryllia dalcen Moab,a difa holl feibion Seth.

18. Bydd Edom yn cael ei meddiannu,bydd Seir yn feddiant i'w gelynion,ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.

19. Daw llywodraethwr allan o Jacoba dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd.”

20. Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud:“Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd,ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio.”

Numeri 24