Numeri 23:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Ond atebodd Balaam ef, “Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?”

27. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Tyrd, fe af â thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno.”

28. Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,

29. a dywedodd Balaam wrtho, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.”

30. Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

Numeri 23