Numeri 23:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.

15. Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD.”

16. Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”

Numeri 23