Numeri 22:38-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

38. Atebodd Balaam ef, “Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau.”

39. Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.

40. Yna aberthodd Balac wartheg a defaid, a'u hanfon at Balaam a'r tywysogion oedd gydag ef.

41. Trannoeth aeth Balac i gyrchu Balaam i fyny i Bamoth-baal, ac oddi yno fe ganfu fod y bobl yn cyrraedd cyn belled ag y gwelai.

Numeri 22