Numeri 21:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth,

20. ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.

21. Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud,

22. “Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed dŵr o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.”

Numeri 21