Numeri 2:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.

5. Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,

6. a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.

7. Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,

Numeri 2