7. Fel offeiriaid, yr wyt ti a'th feibion i ofalu am bopeth sy'n ymwneud â'r allor, a phopeth oddi mewn i'r llen; dyna fydd eich gwasanaeth chwi. Yr wyf yn rhoi'r gwasanaeth offeiriadol yn rhodd i chwi, a bydd farw pwy bynnag arall a ddaw'n agos.”
8. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy ofal hefyd yr offrymau a gyflwynir imi; yr wyf yn rhoi holl bethau cysegredig pobl Israel i ti ac i'th feibion yn gyfran arbennig am byth.
9. Dyma fydd yn eiddo iti o'r pethau mwyaf cysegredig a arbedwyd rhag y tân: pob offrwm o eiddo'r Israeliaid a gyflwynir imi, yn fwydoffrwm, yn offrwm dros bechod neu'n aberth dros gamwedd; bydd yn gysegredig iawn gennyt ti a'th feibion.
10. Yr wyt i'w fwyta yn y lle mwyaf sanctaidd; caiff pob gwryw fwyta ohono, a bydd yn gysegredig gennyt.
11. Bydd hyn hefyd yn eiddo iti: y rhan a neilltuir o'r holl roddion a gyflwynir gan bobl Israel yn offrymau cyhwfan; fe'i rhoddais i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth; caiff pob un sy'n lân yn dy dŷ fwyta ohoni.
12. Rhoddaf iti hefyd y gorau o'r holl olew, gwin ac ŷd a gyflwynir yn flaenffrwyth i'r ARGLWYDD.
13. Bydd holl flaenffrwyth eu tir a gyflwynir i'r ARGLWYDD yn eiddo iti, a chaiff pob un sy'n lân yn dy dŷ fwyta ohono.