2. Gad i'th frodyr o dylwyth Lefi, sef tylwyth dy dad, ymuno â thi a gweini arnat pan fyddi di a'th feibion o flaen pabell y dystiolaeth.
3. Hwy fydd yn gofalu amdanat ac am holl waith y babell, ond nid ydynt i ddynesu at lestri'r cysegr nac at yr allor rhag iddynt hwy, a chwithau, farw.
4. Gad iddynt ymuno â thi i oruchwylio holl wasanaeth pabell y cyfarfod, ond paid â gadael i neb arall ddod yn agos atat.