Numeri 17:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yna gosododd Moses y gwiail gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y dystiolaeth.

8. Trannoeth aeth Moses i mewn i babell y dystiolaeth, a gwelodd fod gwialen Aaron, a oedd yn cynrychioli tŷ Lefi, wedi blaguro a blodeuo a dwyn almonau aeddfed.

9. Yna daeth Moses â'r holl wiail oedd gerbron yr ARGLWYDD allan at holl bobl Israel, ac wedi iddynt eu gweld, cymerodd pob dyn ei wialen.

Numeri 17