Numeri 15:37-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

38. “Dywed wrth bobl Israel am iddynt, dros eu cenedlaethau, wneud taselau ar odre eu gwisg, a chlymu ruban glas ar y tasel ym mhob congl.

39. Pan fyddwch yn edrych ar y tasel, fe gofiwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD, ac ni fyddwch yn puteinio trwy fynd ar ôl y pethau y mae eich calonnau a'ch llygaid yn chwantu amdanynt.

40. Felly fe gofiwch gadw fy holl orchmynion, a byddwch yn sanctaidd i'ch Duw.

Numeri 15