24. Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad;darostyngaist tithau drigolion y wlad,y Canaaneaid, o'u blaen,a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad,iddynt wneud fel y mynnent รข hwy.
25. Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon,a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus,pydewau wedi eu cloddio,gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau;bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus,a mwynhau dy ddaioni mawr.
26. Ond fe aethant yn anufudda gwrthryfela yn dy erbyn.Troesant eu cefnau ar dy gyfraith,a lladd dy broffwydioedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat,a chablu'n ddirfawr.
27. Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr,a chawsant eu gorthrymu.Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat,ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd;yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynti'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.