Nehemeia 8:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Safodd Esra yr ysgrifennydd ar bulpud pren oedd wedi ei wneud i'r diben. Ar yr ochr dde iddo safodd Matitheia, Sema, Anaia, Ureia, Hilceia a Maaseia, ac ar y chwith Pedaia, Misael, Malcheia, Hasum, Hasbadana, Sechareia a Mesulam.

5. Agorodd Esra y llyfr yng ngolwg yr holl bobl, oherwydd yr oedd ef yn uwch na hwy, a phan agorodd y llyfr, safodd pawb ar eu traed.

6. Bendithiodd Esra yr ARGLWYDD, y Duw mawr, ac atebodd yr holl bobl, “Amen, Amen”, gan godi eu dwylo ac ymgrymu ac addoli'r ARGLWYDD â'u hwynebau tua'r ddaear.

7. Yr oedd y Lefiaid, Jesua, Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, yn egluro'r gyfraith i'r bobl, a hwythau'n aros yn eu lle.

8. Yr oeddent yn darllen o lyfr cyfraith Dduw, ac yn ei gyfieithu a'i esbonio fel bod pawb yn deall y darlleniad.

9. Yna dywedodd Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn hyfforddi'r bobl, wrth yr holl bobl, “Y mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw; peidiwch â galaru nac wylo.” Oherwydd yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar eiriau'r gyfraith.

10. Yna fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch â'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch â galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth.”

11. A thawelodd y Lefiaid yr holl bobl a dweud, “Byddwch ddistaw; peidiwch â galaru, oherwydd y mae heddiw yn ddydd sanctaidd.”

12. Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed ac i rannu ag eraill ac i orfoleddu, oherwydd yr oeddent wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthynt.

13. Ar yr ail ddiwrnod daeth pennau-teuluoedd yr holl bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, at Esra yr ysgrifennydd er mwyn astudio geiriau'r gyfraith.

14. Yn y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses, fe gawsant yn ysgrifenedig y dylai'r Israeliaid fyw mewn pebyll yn ystod yr ŵyl yn y seithfed mis,

15. a'u bod i anfon gair a chyhoeddi ym mhob un o'u dinasoedd yn ogystal ag yn Jerwsalem, “Ewch allan i'r mynydd, a dygwch gangau olewydd ac olewydd gwyllt a myrtwydd a phalmwydd a choed deiliog i wneud pebyll, fel yr ysgrifennwyd.”

16. Aeth y bobl allan i'w cyrchu, a gwnaethant bebyll iddynt eu hunain, pob un ar do ei dŷ ac yn eu cynteddoedd ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw ac yn y sgwâr o flaen Porth y Dŵr ac yn y sgwâr o flaen Porth Effraim.

17. Gwnaeth yr holl gynulleidfa a ddychwelodd o'r gaethglud bebyll, a byw ynddynt. Nid oedd yr Israeliaid wedi gwneud hyn o amser Josua fab Nun hyd y dydd hwnnw; a bu gorfoledd mawr iawn.

18. Darllenwyd o lyfr cyfraith Dduw yn feunyddiol o'r dydd cyntaf hyd yr olaf. Cadwasant yr ŵyl am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd bu cynulliad yn ôl y ddefod.

Nehemeia 8