Nehemeia 8:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Gwnaeth yr holl gynulleidfa a ddychwelodd o'r gaethglud bebyll, a byw ynddynt. Nid oedd yr Israeliaid wedi gwneud hyn o amser Josua fab Nun hyd y dydd hwnnw; a bu gorfoledd mawr iawn.

18. Darllenwyd o lyfr cyfraith Dduw yn feunyddiol o'r dydd cyntaf hyd yr olaf. Cadwasant yr ŵyl am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd bu cynulliad yn ôl y ddefod.

Nehemeia 8