Nehemeia 7:72-73 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

72. A'r hyn a roddodd y gweddill o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o finâu o arian, a chwe deg a saith o wisgoedd offeiriadol.

73. Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn Jerwsalem; yr oedd y porthorion a'r cantorion a rhai o'r bobl a gweision y deml yn byw yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn byw yn eu trefi eu hunain.

Nehemeia 7