Nehemeia 3:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Yn eu hymyl hwy yr oedd Reffaia fab Hur, rheolwr hanner rhanbarth Jerwsalem.

10. Yn ei ymyl ef yr oedd Jedaia fab Harumaff yn atgyweirio o flaen ei dŷ, a Hatus fab Hasabneia yn ei ymyl yntau.

11. Yr oedd Malcheia fab Harim a Hasub fab Pahath-moab yn atgyweirio dwy ran a Thŵr y Ffwrneisiau.

12. Yn ei ymyl ef yr oedd Salum fab Haloches, pennaeth hanner rhanbarth Jerwsalem, yn atgyweirio gyda'i ferched.

Nehemeia 3