Nehemeia 12:42-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

42. a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam ac Esra. Ac fe ganodd y cantorion o dan arweiniad Jasraheia.

43. A'r diwrnod hwnnw gwnaethant aberthau mawr a llawenychu, oherwydd yr oedd Duw wedi eu llenwi รข gorfoledd; ac yr oedd y merched a'r plant hefyd yn gorfoleddu. Ac yr oedd llawenydd Jerwsalem i'w glywed o bell.

44. Y diwrnod hwnnw fe benodwyd dynion dros yr ystordai lle'r oedd y trysorau, y cyfraniadau, y blaenffrwyth a'r degymau, er mwyn casglu'r cyfrannau oedd yn ddyledus i'r offeiriaid a'r Lefiaid o'r meysydd o gwmpas y trefi; oherwydd yr oedd Jwda yn falch o wasanaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid.

Nehemeia 12