Nehemeia 12:4-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ido, Ginnetho, Abeia,

5. Miamin, Maadia, Bilga,

6. Semaia, Joiarib, Jedaia, Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia;

7. y rhain oedd penaethiaid yr offeiriaid a'u brodyr yn nyddiau Jesua.

8. A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia a'i frodyr, oedd yn gyfrifol am y moliant,

9. a Bacbuceia ac Unni, eu brodyr, oedd yn sefyll gyferbyn â hwy yn y gwasanaethau.

10. Jesua oedd tad Joiacim, ac yr oedd Joiacim yn dad i Eliasib, ac Eliasib yn dad i Joiada,

11. a Joiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Jadua.

12. Ac yn nyddiau Joiacim, dyma'r offeiriaid oedd yn bennau-teuluoedd: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;

13. o Esra, Mesulam; o Amareia, Jehohanan;

14. o Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;

15. o Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;

16. o Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam;

17. o Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai;

18. o Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan;

19. o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;

20. o Salai, Calai; o Amoc, Eber;

21. o Hilceia, Hasabeia; o Jedaia, Nethaneel.

22. Yn nyddiau Eliasib yr oedd y Lefiaid, sef Joiada, Johanan a Jadua, a'r offeiriaid wedi eu cofrestru fel pennau-teuluoedd hyd at deyrnasiad Dareius y Persiad.

23. Yr oedd pennau-teuluoedd y Lefiaid wedi eu cofrestru yn llyfr y Cronicl hyd at amser Johanan fab Eliasib.

24. Arweinwyr y Lefiaid oedd: Hasabeia, Serebeia, Jesua fab Cadmiel a'u brodyr, oedd yn cymryd eu tro i foliannu a thalu diolch yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, ac i gadw cylch y gwasanaethau.

Nehemeia 12