Nehemeia 10:36-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. a hefyd i roi'r cyntafanedig o'n meibion a'n hanifeiliaid a'n gwartheg a'n defaid i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn nhŷ ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.

37. Hefyd i roi i'r offeiriaid y cyntaf o'n toes, o ffrwyth pob coeden, ac o'r gwin a'r olew newydd, ar gyfer ystordai tŷ ein Duw; ac i roi i'r Lefiaid ddegwm o'n tir am mai hwy sy'n casglu'r degwm yn yr holl bentrefi lle'r ydym yn gweithio.

38. Bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda'r Lefiaid pan fyddant yn casglu'r degwm, ac fe ddaw'r Lefiaid â degfed ran y degwm i'r ystordai yn nhrysorfa tŷ ein Duw.

Nehemeia 10