Nahum 2:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc,cynefin y llew a'r llewes,lle triga'r cenawon heb eu tarfu?

12. Darniodd y llew ddigon i'w genawon,a lladd ar gyfer ei lewesau;llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth,a'i loches â'i raib.

13. “Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Llosgaf dy ffau mewn mwg,ac ysa'r cleddyf dy genawon;torraf ymaith dy ysbail o'r tir,ac ni chlywir mwyach sôn am dy weithredoedd.”

Nahum 2