Micha 6:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD:“Cod, dadlau dy achos o flaen y mynyddoedd,a bydded i'r bryniau glywed dy lais.

2. Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd,chwi gadarn sylfeini'r ddaear;oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl,ac fe'i dadlau yn erbyn Israel.

3. O fy mhobl, beth a wneuthum i ti?Sut y blinais di? Ateb fi.

Micha 6