Micha 4:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDDwedi ei osod ar ben y mynyddoeddac yn uwch na'r bryniau.Dylifa'r bobloedd ato,

2. a daw cenhedloedd lawer, a dweud,“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,i deml Duw Jacob,er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrddac i ninnau rodio yn ei lwybrau.”Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

Micha 4