Micha 3:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel,chwi sy'n casáu cyfiawnderac yn gwyrdroi pob uniondeb,

10. yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaeda Jerwsalem trwy dwyll.

11. Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl,ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr,ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian;ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud,“Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg?Ni ddaw drwg arnom.”

12. Am hynny, o'ch achos chwibydd Seion yn faes wedi ei aredig,a Jerwsalem yn garneddau,a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.

Micha 3