Micha 2:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud,“Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”

12. “Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob,a chynullaf ynghyd weddill Israel;gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra,fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.

13. Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen;torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan. eu brenin o'u blaenau,a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain.”

Micha 2