Micha 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed,ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau,ac ar doriad dydd yn ei wneud,cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.

2. Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio,a thai, ac yn eu meddiannu;y maent yn treisio perchennog a'i dŷ,dyn a'i etifeddiaeth.

3. Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwgna all eich gwarrau ei osgoi;ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth,oherwydd bydd yn amser drwg.

Micha 2