Mathew 9:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Oherwydd yr oedd hi wedi dweud ynddi ei hun, “Dim ond imi gyffwrdd â'i fantell, fe gaf fy iacháu.”

22. A throes Iesu, a gwelodd hi, ac meddai, “Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac iachawyd y wraig o'r munud hwnnw.

23. Pan ddaeth Iesu i dŷ'r llywodraethwr, a gweld y pibyddion a'r dyrfa mewn cynnwrf,

24. dywedodd, “Ewch ymaith, oherwydd nid yw'r eneth wedi marw; cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben.

Mathew 9