Mathew 8:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef.

24. A dyma storm fawr yn codi ar y môr, nes bod y cwch yn cael ei guddio gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu.

25. Daethant ato a'i ddeffro a dweud, “Arglwydd, achub ni, y mae ar ben arnom.”

26. A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?” Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr.

27. Synnodd y bobl a dweud, “Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r môr yn ufuddhau iddo.”

28. Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid, daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno.

Mathew 8