10. Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr.
11. Rwy'n dweud wrthych y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin a chymryd eu lle yn y wledd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd.
12. Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.”
13. A dywedodd Iesu wrth y canwriad, “Dos ymaith; boed iti fel y credaist.” Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.
14. Pan ddaeth i dŷ Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn.