Mathew 5:43-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’

44. Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid;

45. felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn.

46. Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint â hynny?

47. Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint â hynny?

48. Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.

Mathew 5