Mathew 5:25-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar.

26. Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf.

27. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Na odineba.’

28. Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon.

29. Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern.

30. Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.

31. “Dywedwyd hefyd, ‘Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.’

32. Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.

33. “Clywsoch hefyd fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na thynga lw twyllodrus’, a ‘Rhaid iti gadw pob llw a roist i'r Arglwydd.’

34. Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw;

35. nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw.

36. Paid â thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu.

37. Ond boed eich ‘ie’ yn ‘ie’, a'ch ‘nage’ yn ‘nage’; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.

38. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’

39. Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.

40. Ac os bydd rhywun am fynd â thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd.

41. Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddau.

42. Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.

Mathew 5