Mathew 4:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali,

14. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:

15. “Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;

16. y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr,ac ar drigolion tir cysgod angauy gwawriodd goleuni.”

17. O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”

Mathew 4