Mathew 4:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”

11. Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.

12. Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea.

13. A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali,

14. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:

15. “Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;

16. y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr,ac ar drigolion tir cysgod angauy gwawriodd goleuni.”

17. O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”

18. Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.

Mathew 4