Mathew 3:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno.

17. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.”

Mathew 3