Mathew 28:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Yn eu dychryn o'i weld, crynodd y gwarchodwyr, ac aethant fel rhai marw.

5. Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: “Peidiwch chwi ag ofni,” meddai. “Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych.

6. Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu'n gorwedd.

Mathew 28