Mathew 27:48-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

48. Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed.

49. Ond yr oedd y lleill yn dweud, “Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub.”

50. Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw.

51. A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau;

Mathew 27