Mathew 27:43-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â'i fryd arno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf.’ ”

44. Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.

45. O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.

46. A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”

47. O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, “Y mae hwn yn galw ar Elias.”

Mathew 27