Mathew 26:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg.

21. Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i.”

22. A chan dristáu yn fawr dechreusant ddweud wrtho, bob un ohonynt, “Nid myfi yw, Arglwydd?”

23. Atebodd yntau, “Un a wlychodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.

24. Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni.”

Mathew 26