Mathew 25:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Atebodd ei feistr ef, ‘Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.

27. Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio.

28. Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod.

29. Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.

Mathew 25