Mathew 24:38-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

38. Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch,

39. ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.

40. Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall.

Mathew 24