Mathew 24:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.

15. “Felly, pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’, y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd” (dealled y darllenydd)

16. “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.

17. Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ;

18. a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.

Mathew 24