Mathew 23:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion.

2. Dywedodd: “Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses.

3. Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu.

Mathew 23